Helpu gwneud Peblig yn lle gwell i fyw

Partneriaeth Pobol Peblig

Cyrsiau

Cyrsiau sydd yn cychwyn ar ol mis Medi 2009
• : Ymwybyddiaeth cyffuriau i oedolion (1 diwrnod)
• : Pendantrwydd i oedolion ( 6 wythnos) Lefel 1
• : Cwrs Garddio Basic RCA, Lefel 1
• : Rheolaeth Dyled i gwirfoddolwyr
• : Gweithio gyda pobl ifanc RCA, Lefel 3

Nid yw ail orau yn ddigon da

‘Nid yw ail orau yn ddigon da – pam na ddylai ein pobl ifanc gael sgiliau o safon, cymwysterau da, swyddi o safon ac incwm addas?’ Cefnogi pobl ifanc 16-25+, sy’n ddi-waith neu heb gymwysterau ac yn byw yn ward Peblig i gyfranogi a chyflawni eu potensial, Prosiect ymchwil gweithrediad a gyflawnwyd gan Partneriaeth Pobol Peblig Partnership

Llawrllwytho yr adnodiad llawnyn (word)

Ymweliad i Bortmeirion

Un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru yw Gerddi a phentref Portmeirion.
Aeth llond bws o drigolion stad Peblig yng Nghaernarfon am daith i Bortmeirion ddydd Sadwrn Mehefin 13.

Yng nganol yr ardd mae pwll addurnol lle roedd plant Tŷ Pobol Peblig wrth ei boddau tra bod eraill yn mwynhau cerdded trwy'r goedwig i fyny at y fynwent cŵn. Mae gardd y goedwig yn llawn o blanhigion ecsotic fel Cas Gan Fwnci a rhododendron a llawer mwy.

Sioned Young o Ymdiriedolaeth Gerddi Agored aeth â ni o amgylch y pentref ac yn adrodd ychydig o'r hanes lleol. Cafodd pawb cinio ar lan y môr yn ystod awr hamdden. Roedd y tywydd yn fendigedig a buon ni'n treulio'r diwrnod cyfan yn archwilio yn y pentref Eidalaidd prydferth.

Ymweliad a Gerddi Bodnat

Ymweliad wedi ei drefnu gan Gerddi Agoriad Mae'r rhain yn cael eu cynnig yn rhad ac am ddim i gerddi Bodnant ar y 14 o Ebrill
Yn 1875 cychwynnwyd ar yr ardd fe welir amrywiaeth o ffurfiau a chynlluniau yma lawntiau ffurfiol a therasau pyllau lili a choedwig yn cynnig amrywiaeth o goed a phlanhigion o bedwar ban y byd
 

Bryn Fôn yn y Galeri

Noson dda yn y Galeri lle wnaeth pawb fwynhau ei hunain. Canodd 7 o bobl leol gyda Bryn Fôn a'i fand

Dyma'r saith: Eric, Morwena, Angharad, Carl, Heather, David a Mererid.

Hoffwn ddiolch i bawb a cymerodd rhan yn y digwyddiad, a diolch hefyd i'r Galeri.

Pobol Peblig


Pobol Peblig a Phwyllgor Digwyddiadau Peblig yw'r gwirfoddolwyr sy’n datglygu prosiectiau cymunedol a threfnu gweithgareddau cymunedol fel diwrnodiau hwyl, clwb pob dim, diwrnodiau glanhau, tripiau, pictiwrs peblig, coop bwyd, coelgerth, a digwyddiadau eraill yn y tŷ cymunedol.

Mae croeso i unrhyw un sy’n byw ym Mheblig ymuno â’r group. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni yn Nhŷ Peblig.

Am y Bartneriaeth

  • Beth yw Partneriaeth Pobol Peblig?
  • Pwy yw’r Bartneriaeth?
  • Sut Mae’n Gweithio?
  • Sut Allwch Chi Gymryd Rhan?

Gwbodaeth safle

Cyfarfod Nesaf

Beth sydd ymlaen?

Pobol Ifanc?

  • Dim digwyddiadau

Gwbodaeth safle

Cysylltu â ni

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw brosiect neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth anfonwch air, ffoniwch neu galwch heibio:

Pobol Peblig Partnership
Ty Pobol Peblig, 3/4 Pen Sgubor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2RU
Ffôn/Ffacs: 01286 662620

Tudalennau Gwybodaeth

Logio gweinyddol

Gweinyddwyr gwefan Peblig logiwch yma i olygu tudalennau ac uwchlwytho gwybodaeth

Mae Cymunedau Cyntaf yn raglen Llywodraeth Cynulliad Cymru